Rhannu Yr Achos Dros Newid ar FacebookRhannu Yr Achos Dros Newid Ar TwitterRhannu Yr Achos Dros Newid Ar LinkedInE-bost Yr Achos Dros Newid dolen
Mae pandemig COVID-19 wedi golygu bod y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau ysbyty wedi gorfod newid yn gyflym iawn. Mae darparu gofal iechyd o ansawdd uchel yn fwy heriol nawr nag y bu ers cryn amser, ac mae'r heriau hyn yn debygol o barhau am flynyddoedd i ddod. Mae COVID-19 wedi arwain at gau wardiau ysbyty ac oedi wrth drin cleifion. Felly, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau pwysig a gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gweithio er mwyn rheoli COVID-19.
Yn ogystal â COVID-19 rydym hefyd yn wynebu heriau eraill y gellir dod o hyd i rai ohonynt ledled Cymru a gweddill y DU ac mae rhai ohonynt yn fwy penodol i'n rhan ni o Dde Cymru.
Nid yw Newid er y Dyfodol yn ymwneud yn unig â sut yr ydym yn gwella o'r pandemig, mae hefyd yn ymwneud â sut yr ydym yn mynd i'r afael â sawl mater hirsefydlog a oedd yn bodoli cyn COVID-19. Mae'r rhain yn cynnwys:
Anghydraddoldebau iechyd lleol sylweddol
Poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio
Problemau iechyd sy'n deillio o ddewisiadau ffordd o fyw wael (ysmygu, alcohol ac ati)
Nifer yr achosion o salwch tymor hir
Anawsterau wrth recriwtio staff iechyd a gofal
Heriau ariannol
Os hoffech wybod mwy, archwiliwch y wefan hon, adolygwch y ddogfen ymgysylltu a chwblhewch ein harolwg.