Tair Canolfan Ragoriaeth

Rhannu Tair Canolfan Ragoriaeth ar Facebook Rhannu Tair Canolfan Ragoriaeth Ar Twitter Rhannu Tair Canolfan Ragoriaeth Ar LinkedIn E-bost Tair Canolfan Ragoriaeth dolen

Mae ein cynigion yn cynnwys datblygu ein tri phrif ysbyty ym Mae Abertawe (Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot) fel ‘canolfannau rhagoriaeth’ ar gyfer gwahanol fathau o ofal. Rydym wedi bod yn edrych ar y sgiliau a'r adnoddau sydd gennym nawr, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y ffordd orau i ddyrannu adnoddau yn y dyfodol. Rydym am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal sy'n lleol lle bo hynny'n bosibl, ac yn arbenigol lle bo angen.

Mae gwneud pob un o'n prif ysbytai yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwahanol wasanaethau yn golygu na fydd pob gwasanaeth yn cael ei ddarparu ym mhob un o'r tri phrif ysbyty. Yn hytrach nag ystyried bod pob un o'n hysbytai yn gwasanaethu eu hardal leol yn unig, ein nod yw i bob safle wasanaethu ardal Bae Abertawe i gyd fel rhan o rwydwaith o ddarpariaeth gofal iechyd arbenigol.

Trwy grynodi gwahanol sgiliau, adnoddau ac arbenigeddau ar bob safle, bydd pob ysbyty yn dod yn ‘bwerdy’ ar gyfer y gwasanaethau hyn, gan ddarparu triniaethau arbenigol i safon uwch nag y gallwn eu cynnig ar hyn o bryd o dan fodel ysbytai cyffredinol. Credwn y bydd y dull hwn yn golygu bod rhestrau aros yn dod yn fyrrach a bydd cleifion yn gallu cyrchu'r triniaethau sydd eu hangen arnynt yn gyflymach.

Yn ôl y rhaglen ymgysylltu hon, rydym yn cynnig datblygu ein tri phrif ysbyty fel a ganlyn:

Bydd Ysbyty Treforys yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal brys ac argyfwng, gofal arbenigol a gwasanaethau llawfeddygol rhanbarthol ar gyfer Bae Abertawe, gan gynnwys ymyriadau meddygol cymhleth. Mae hon yn egwyddor gyffredinol sydd eisoes wedi'i hamlinellu a'i chytuno mewn ymrwymiadau cyhoeddus yn y gorffennol.

Bydd Ysbyty Singleton yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, gofal canser a diagnosteg. Bydd yn dod yn bwerdy ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio, triniaethau achos dydd, gofal arhosiad byr ac yn lle ar gyfer diagnosteg glinigol (sganio pelydr-X, MRI a CT a phatholeg).

Bydd Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal orthopedig ac asgwrn cefn, diagnosteg, adsefydlu a rhiwmatoleg. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn wedi bod dan bwysau mawr oherwydd y pandemig ac mae rhestrau aros wedi mynd yn rhy hir, yn enwedig i'r rhai sy'n dioddef o boen ac anghysur sy'n aros am lawdriniaeth pen-glin, clun neu gefn. Gwnaethom gydnabod bod angen i ni gymryd camau i fynd i'r afael â'r problemau a gwella'r sefyllfa i'r holl gleifion a staff.

Os hoffech wybod mwy, archwiliwch y wefan hon, adolygwch y ddogfen ymgysylltu a chwblhewch ein harolwg.

CYMERWCH YR AROLWG

Diweddaru: 11 Awst 2021, 12:57 PM